Memorandwm Esboniadol i God Trefniadaeth Ysgolion 2018

 

Paratowyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan y Gyfarwyddiaeth Addysg ac fe’i cyflwynir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â’r cod uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1 a 27.14.

 

Datganiad y Gweinidog

 

Yn fy marn i, mae’r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi barn deg a rhesymol ar effaith ddisgwyliedig Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018.  

 

KIRSTY WILLIAMS

MEDI 2018

 


1. Disgrifiad

Mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn gosod gofynion ac yn darparu canllawiau i’r rhai sy’n gyfrifol am gyflwyno cynigion ynghylch trefniadaeth ysgolion a phenderfynu arnynt o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 (‘y Ddeddf’).

 

2. Materion o ddiddordeb arbennig i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Dim.

 

3. Cefndir deddfwriaethol

Mae Adran 38 o’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod ar drefniadaeth ysgolion (‘y Cod’).

 

Mae Adran 39 o’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno copi drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn cyhoeddi neu ddiwygio Cod. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu cyn diwedd y cyfnod o 40 diwrnod na fydd yn cymeradwyo fersiwn drafft y Cod, ni chaiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi’r Cod arfaethedig ar ffurf y fersiwn drafft honno. Os na fydd penderfyniad o’r fath yn cael ei wneud cyn diwedd y cyfnod o 40 diwrnod, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r Cod (neu’r Cod diwygiedig) ar ffurf y fersiwn drafft. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy orchymyn diwrnod penodedig.

 

4. Pwrpas ac effaith fwriedig y ddeddfwriaeth

Mae’r Cod yn darparu ar gyfer y gwaith o gyflawni swyddogaethau trefniadaeth ysgolion gan Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, ac, mewn cysylltiad â chynigion i sefydlu ysgolion gwirfoddol, gan unigolion eraill. Mae’n rhaid i’r unigolion a restrir weithredu’n unol â gofynion y Cod, a rhoi sylw dyledus i ganllawiau perthnasol sydd ynddo.

 

Bwriad y Cod yw:

 

·      gweithredu fel canllaw i’r ddeddfwriaeth;

·      darparu canllawiau ar arferion da;

·      nodi’n fanwl y gofynion gorfodol ynghylch materion fel ymgynghori ar drefniadaeth ysgolion;

·      nodi’r cyd-destun polisi, egwyddorion cyffredinol a’r ffactorau y dylid eu hystyried gan y rhai sy’n cyflwyno cynigion i ad-drefnu darpariaeth ysgolion a’r rhai sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ar gynigion.

 

Bwriedir i’r Cod fod yn sail i’r darpariaethau trefniadaeth ysgolion a geir yn y Ddeddf ac mae’n hanfodol i weithrediad y darpariaethau hynny. O’u cymryd gyda’i gilydd, mae darpariaethau’r Ddeddf a’r Cod wedi cyflymu’r broses drefniadaeth ysgolion gan sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar lefel leol lle bo’n bosibl. Mae hyn, yn ei dro, wedi arwain at gynnydd cyflymach tuag at gyrraedd y nod o greu system effeithlon ac effeithiol o Ysgolion yr 21ain Ganrif sy’n darparu cymaint â phosibl o gyfleoedd addysgol i bob plentyn a pherson ifanc ac yn helpu i godi lefelau cyrhaeddiad addysgol. Ymhellach, mae’r Cod yn arbennig wedi’i gynllunio i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau plant a phobl ifanc, yn enwedig grwpiau agored i niwed fel plant ag anghenion addysgol arbennig. Mae’r Cod yn gosod buddiannau plant a phobl ifanc wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau am drefniadaeth ysgolion ac yn ceisio eu cynnwys yn y broses honno.

 

Daeth argraffiad cyntaf y Cod i rym ar 1 Hydref 2013 ac mae wedi bod yn weithredol ar gyfer yr holl gynigion trefniadaeth ysgolion a gyhoeddwyd drwy hysbysiad statudol ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Unwaith y daw ail argrffiad y Cod i rym bydd yn disodli argraffiad cyntaf y Cod yn amodol ar y paragraff canlynol.

 

Os yw cynigydd wedi dechrau ymgynghori cyn 1 Tachwedd 2018 bydd rhaid i’r cynnig â gyhoeddwyd ei benderfynu yn unol â fersiwn gyntaf y Cod. Ystyrir y bydd ymgynghoriad wedi dechrau pan fydd dogfen ymgynghori, fel sy’n ofynnol gan adran 3.2 o’r fersiwn gyntaf o’r cod, wedi’i chyhoeddi.

 

Adolygwyd y Cod ar ôl tair blynedd mewn grym. Nod mwyafrif y newidiadau arfaethedig yw darparu eglurder lle roedd angen heb newid hanfod y Cod.

 

Yn ogystal, mae’r newidiadau sylweddol canlynol yn ceisio cryfhau argraffiad cyntaf y Cod:

 

·      Mae ail argraffiad y Cod yn gwneud trefniadau arbennig ar gyfer ysgolion gwledig (a ddiffinnir o fewn y Cod), gan sefydlu rhagdybiaeth weithdrefnol yn erbyn cau ysgolion gwledig. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gynigwyr ddilyn cyfres fanylach o weithdrefnau a gofynion wrth lunio cynnig i gau ysgol wledig ac wrth ymgynghori a gwneud penderfyniad ynghylch gweithredu cynnig i gau ysgol wledig ai peidio.  

Nid yw rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgol wledig yn golygu na fydd ysgol wledig byth yn cau, ond bod rhaid i’r achos dros ei chau fod yn gryf, a bod pob opsiwn ymarferol arall wedi’u hystyried yn gydwybodol gan y cynigydd, gan gynnwys ffedereiddio.

·      Mae’r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn berthnasol i ysgolion sydd wedi’u dynodi fel rhai gwledig at y diben penodol hwn yn unig. Mae’r dynodiad o ysgolion gwledig wedi’i gynnwys yn y Cod ynghyd â rhestr o ysgolion gwledig sy’n deillio ohono.

 

·      Wrth ystyried effaith debygol cynigion ar ansawdd a safonau addysg dylai cyrff perthnasol gyfeirio at Fframwaith Arolygu Cyffredin diwygiedig Estyn.
 

·      Wrth ystyried yr angen am leoedd mewn ysgolion ac effaith hygyrchedd ysgolion neu gynigion dylai cyrff perthnasol ystyried i ba raddau y byddai’r cynnig yn cefnogi’r targedau yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yr awdurdod lleol. 

 

·      Wrth ystyried cynigion ar gyfer newid cyfrwng iaith dylai cyrff perthnasol ystyried i ba raddau y byddai’r cynnig yn cefnogi’r targedau yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yr awdurdod lleol. 

 

·      Gofyniad newydd i gyhoeddi dogfennau ymgynghori ar gynigion statudol ar ddiwrnod ysgol.

·      Mae’r rhestr statudol o’r rhai a ddylai dderbyn copïau o ddogfennau ymgynghori, adroddiadau ymgynghori, hysbysiadau statudol, adroddiadau gwrthwynebu a hysbysiadau penderfyniadau wedi’i hymestyn.

·      Dylid rhoi gwybod i ymgynghoreion bod y ddogfen ymgynghori ar gael drwy lythyr neu e-bost ac y gallent gael copi caled drwy wneud cais.

·      Gofyniad newydd i ddogfennau ymgynghori gynnwys manylion am sut y gallai cynigion sy’n cynnwys cau ysgol effeithio ar y ddarpariaeth cludiant dewisol a ddarperir gan awdurdod lleol i ddysgwyr sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol.

·      Gofyniad newydd i ddogfennau ymgynghori gynnwys esboniad o sut mae’r cynigion yn ffurfio rhan o’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg pan fo unrhyw ysgol sy’n gysylltiedig neu sy’n cael ei heffeithio yn darparu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

·      Gofyniad newydd i ddogfennau ymgynghori gynnwys asesiad o’r graddau y byddai’r cynnig yn cefnogi’r targedau yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ac yn ehangu neu’n lleihau’r ddarpariaeth Gymraeg.

·      Mae’r gofyniad i gyhoeddi adroddiad ymgynghori “o fewn 13 wythnos i ddiwedd y cyfnod ymgynghori” wedi’i ddiwygio i “o leiaf bythefnos cyn cyhoeddi hysbysiad statudol”.

 

·      Gofyniad newydd i adroddiad ymgynghori gynnwys ymateb Estyn i’r ymgynghoriad yn llawn ac i’r cynigydd ymateb i’r materion a godwyd gan Estyn ar ffurf esboniad, diwygiad i’r cynnig neu wrthod y pryderon, gan nodi rhesymau i gefnogi hynny.

·      Gofyniad newydd i gynigwyr hysbysu Gweinidogion Cymru unwaith y bydd cynnig wedi’i weithredu.

5. Ymgynghoriad

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cod drafft diwygiedig am 14 wythnos rhwng 30 Mehefin 2017 a 30 Medi 2017. Roedd y rhai yr ymgynghorwyd â nhw’n cynnwys awdurdodau lleol; cyrff llywodraethu ysgolion; Estyn; y Comisiynydd Plant; awdurdodau addysg esgobaethol; Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; ac undebau athrawon.

Derbyniwyd 70 o ymatebion gan gynrychiolaeth eang o randdeiliaid. Cafwyd cefnogaeth eang i’r holl ddiwygiadau arfaethedig i argraffiad cyntaf y Cod gan y mwyafrif o ymatebwyr, er bod ychydig o awgrymiadau ar gyfer gwella. Cafodd llawer o’r awgrymiadau hyn eu cynnwys wedyn yn y drafft o’r Cod sy’n cael ei gyflwyno.

 

Roedd hyn yn cynnwys ehangu categorïau’r Dosbarthiad Cenedlaethol-Wledig a ddefnyddiwyd i ddynodi ysgolion gwledig a’r rhestr o ysgolion gwledig sy’n deillio ohono.

 

Cyhoeddwyd crynodeb manwl o ymatebion i’r ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru yn https://beta.llyw.cymru/cod-trefniadaeth-ysgolion

 

6. Asesiad Effaith Rheoleiddiol

Nid yw’r Cod yn is-ddeddfwriaeth a wnaed drwy offeryn statudol ac o’r herwydd nid oes angen Asesiad Effaith Rheoleiddiol o dan adran 4.2 o God Asesu Effaith Rheoleiddiol Gweinidog Cymru. Fodd bynnag, rydym wedi ystyried goblygiadau ail fersiwn y Cod ar awdurdodau lleol a chynigwyr eraill.

 

Rydym yn ystyried y bydd dileu’r gofyniad i gynigwyr ddarparu copi papur o’r ddogfen ymgynghori i bob un o’r ymgynghoreion statudol yn lleihau’r baich gweinyddol ac ariannol ar awdurdodau lleol a chynigwyr eraill. Mae llawer o waith yn cael ei wneud i baratoi’r ddogfen ymgynghori a’r ddogfen ategol, sy’n gallu bod yn nifer fawr o dudalennau. Yn hytrach, bydd gofyn i gynigwyr gynghori ymgynghoreion ar ble i gael copi o’r ddogfen ymgynghori ac y gallent dderbyn copi caled wrth wneud cais.

 

Er ein bod ni’n ystyried y bydd cyflwyno rhagdybiaeth weithdrefnol yn erbyn cau ysgolion gwledig yn arwain at amser ychwanegol i rai awdurdodau lleol o ran nodi dewisiadau eraill yn lle cau, nid ydym yn ystyried y bydd yn arwain at oblygiadau ariannol sylweddol.

 

Er nad oedd argraffiad cyntaf y Cod yn cynnwys unrhyw ragdybiaeth yn erbyn cau unrhyw fath o ysgol, roedd gofyn i gynigwyr sicrhau bod yr achos dros gau unrhyw ysgol yn gadarn ac er budd gorau darpariaeth addysgol yr ardal. O ran unrhyw fwriad i gau ysgol roedd gofyn iddynt roi sylw arbennig i ddewisiadau eraill yn lle cau ac i gynnal asesiad o’r effaith ar y gymuned. Roedd argraffiad cyntaf y Cod yn cydnabod bod cau ysgol wledig yn gallu cael effaith ar y gymuned y tu hwnt i fyd addysg yn unig. Roedd gofyn i gynigwyr ymgynghori cyn cyhoeddi newidiadau mawr i ysgolion.

 

O dan y rhagdybiaeth weithdrefnol yn erbyn cau ysgolion gwledig bydd nodi dewisiadau eraill yn lle cau yn broses ddwy ran. Bydd gofyn i gynigwyr wneud hyn cyn penderfynu symud ymlaen i ymgynghoriad gyda chyfle pellach i ymgynghoreion nodi dewisiadau eraill yn ystod y broses ymgynghori y mae’n rhaid i’r cynigiwr eu hystyried.

 

Gwyddom fod nifer o awdurdodau lleol eisoes yn gwneud llawer o’r hyn a ddisgwylir o dan y Cod newydd. Disgwylir y bydd cyflwyno rhagdybiaeth weithdrefnol yn erbyn cau ysgolion gwledig yn sicrhau bod y gweithdrefnau y mae cynigwyr yn eu mabwysiadu i nodi dewisiadau eraill yn lle cau yn agored a thryloyw a bod penderfyniadau dilynol yn seiliedig ar ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol. Dylai hyn arwain at ymgysylltu gwell a disgwylir y bydd hynny’n arwain at bapurau cynigion o safon uwch ac ymgynghoriadau gwell.

 

Mae’r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn berthnasol i’r ysgolion hynny sydd wedi’u dynodi fel rhai gwledig yn y Cod yn unig. Mae 218 o ysgolion wedi’u dynodi fel ysgolion gwledig. Mae’r rhain wedi’u lleoli mewn 15 ardal awdurdod lleol.

 

Byddwn yn parhau i fonitro effaith ail fersiwn y Cod yn cynnwys y rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig.